Haia, Elin Mair ydw i.

Mae fy ngwaith wedi ei ysbrydoli'n drwm gan harddwch naturiol Llŷn ac Eifionydd, yn enwedig y tirweddau blodau hyfryd.

Dathlais 10 mlynedd mewn busnes yn ddiweddar ac rwyf mor falch o ddweud ei fod yn mynd o nerth i nerth.  

Fy nghyflawniad mwyaf hyd yma yw cael fy nghomisiynu i ddylunio a gwneud y Goron ar gyfer yr Eisteddfod a gynhaliwyd yn lleol ym Moduan yn 2023.  

Mwy amdanaf

Cysylltwch