Termau Gwasanaethu
TERMAU AC AMODAU
Mae'r Telerau ac Amodau hyn yn berthnasol rhyngoch chi, y 'Defnyddiwr', a 'Elin Mair', perchennog y wefan hon.
Ystyrir bod eich cytundeb i gydymffurfio â'r Telerau ac Amodau hyn a chael eich rhwymo ganddynt yn digwydd ar eich defnydd cyntaf o'r wefan. Os nad ydych chi’n cytuno i gael eich rhwymo gan y Telerau ac Amodau hyn, dylech roi'r gorau i ddefnyddio'r wefan ar unwaith. Ni fwriedir i unrhyw ran o'r Wefan hon fod yn gynnig cytundebol sy'n gallu cael ei dderbyn. Mae eich archeb yn cynnwys cynnig cytundebol, ac ystyrir bod ein derbyniad o'r cynnig hwnnw yn digwydd pan fyddwn yn anfon e-bost atoch yn nodi bod eich archeb wedi'i chyflawni a'i bod ar ei ffordd i chi. Efallai y byddwn ni’n diweddaru'r Telerau ac Amodau Masnach hyn (ac unrhyw ddogfennau y cyfeirir atynt ynddynt) o bryd i'w gilydd a byddwn yn hysbysu am newidiadau o'r fath trwy eu huwchlwytho ar ein gwefan. Trwy ddefnyddio ein gwefan www.elinmair.co.uk rydych chi’n cytuno i gael eich rhwymo gan y Telerau ac Amodau Masnach hyn.
CYRCHU EIN GWEFAN
Caniateir mynediad i'n gwefan dros dro, ac rydym ni’n cadw'r hawl i dynnu'r gwasanaethau rydym ni’n eu darparu drwy’r wefan yn ôl neu eu diwygio heb rybudd. Ni fyddwn yn atebol os nad yw'r wefan ar gael ar unrhyw adeg neu am unrhyw gyfnod am unrhyw reswm. O bryd i'w gilydd efallai y byddwn ni’n cyfyngu mynediad i rai rhannau o'r safle, neu'r wefan gyfan, am resymau cynnal a chadw.
EIDDO DEALLUSOL
Yn ddarostyngedig i'r isod, mae'r holl gynnwys sydd wedi'i gynnwys ar y wefan hon, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, ein dyluniadau gemwaith, testun, graffeg, logos, eiconau a delweddau yn eiddo i 'Elin Mair' neu drydydd partïon perthnasol. Byddwn yn mynd ar drywydd unrhyw drosedd yn gryf. Trwy barhau i ddefnyddio ein gwefan rydych chi’n cydnabod bod deunydd o'r fath yn cael ei ddiogelu gan y Deyrnas Unedig a chyfreithiau eiddo deallusol rhyngwladol perthnasol a chyfreithiau eraill. Ni chewch atgynhyrchu, copïo, dosbarthu, storio, neu mewn unrhyw fodd arall ailddefnyddio deunydd o'n gwefan oni bai eich bod yn cael caniatâd ysgrifenedig penodol i wneud hynny gan 'Elin Mair'.
HAWLFREINTIAU A PHERCHNOGAETH
'Elin Mair' sy'n berchen ar y wefan hon a'i chynnwys. Gwaherddir unrhyw ddefnydd o'r wefan neu ei chynnwys gan gynnwys copïo a storio delweddau heb ganiatâd ymlaen llaw at ddibenion masnachol. Ni chewch addasu, dileu, dosbarthu, na phostio unrhyw beth ar y wefan hon at unrhyw ddiben.
NWYDDAU, PRISIO AC ARGAELEDD
Er bod pob ymdrech wedi'i gwneud i sicrhau bod yr holl gynrychioliadau a disgrifiadau o'r Nwyddau sydd ar gael gan 'Elin Mair' yn cyfateb i'r Nwyddau gwirioneddol, nid 'Elin Mair' sy'n gyfrifol am unrhyw amrywiadau o'r disgrifiadau hyn. Mae'r holl eitemau wedi'u gwneud â llaw i archeb; mae unrhyw afreoleidd-dra yn ganlyniad anochel i broses gwneud â llaw. Mae'r holl wybodaeth brisio ar y wefan yn gywir ar adeg mynd ar-lein. Mae 'Elin Mair' yn cadw'r hawl i newid prisiau a newid neu ddileu unrhyw gynigion arbennig o bryd i'w gilydd ac yn ôl yr angen.
AMODAU GWERTHU A DISGOWNT
Ni ellir dyddio archebion sy’n cael eu gwneud yn ystod ein cyfnod arwerthiant yn ôl neu ymlaen.
POLISI TALU
Rydym ni angen taliad llawn cyn i archebion a wneir o'r wefan hon gael eu cludo. Rydym ni’n derbyn taliad trwy porth talu integredig ‘Shopify’ sy'n caniatáu i fasnachwyr dderbyn dulliau talu cyffredin yn uniongyrchol o fewn eu siop, gan gynnwys cardiau credyd mawr, Apple Pay, Google Pay, Meta Pay a Shop Pay sef opsiwn talu cyflym ar gyfer cwsmeriaid sy'n dychwelyd sy'n storio eu gwybodaeth cludo a bilio, gan gyflymu'r broses brynu.
CLUDO – TIR MAWR Y DU YN UNIG
- Mae 'Elin Mair' yn anelu at anfon yr holl nwyddau a brynwyd o'r wefan hon o fewn 7 diwrnod gwaith ar ôl derbyn eich archeb. Nid yw hyn yn cynnwys gwyliau banc na phenwythnosau. Gall cludo gymryd mwy o amser yn ystod amseroedd prysurach o'r flwyddyn. Peidiwch ag oedi i gysylltu â ni os ydych chi’n ansicr o unrhyw beth.
- Mae pob parsel yn cael ei gludo gan ddefnyddio dewis cludwyr o ddewis y defnyddiwr; 'Tracked 24' gan y Post Brenhinol neu 'Special Delivery' gan y Post Brenhinol'.
- Oherwydd natur gwneud â llaw pob darn, yn anffodus ni all 'Elin Mair' gynnig gwasanaeth dosbarthu diwrnod nesaf. Fodd bynnag, os ydych chi angen eitem ar gyfer dyddiad penodol, cysylltwch â ni ar post@elinmair.co.uk cyn archebu, a byddwn yn gwneud ein gorau glas i ddiwallu eich anghenion.
POLISI CANSLO
- Os ydych chi angen canslo eich archeb rhaid i chi ein hysbysu yn ysgrifenedig cyn i'ch pryniant gael ei anfon. Cysylltwch â ni drwy ebost post@elinmair.co.uk
- Os yw eich pryniant wedi'i anfon neu os ydych chi eisoes wedi derbyn eich archeb, gweler y Polisi Dychwelyd isod am fwy o wybodaeth.
- Ni ellir canslo eitemau wedi'u comisiynu neu eu personoli unwaith y bydd y gwaith wedi dechrau.
DANFONIADAU HWYR / DDIM YN CYRRAEDD
Os yw eich danfoniad yn hwyr neu os nad yw'n cyrraedd o fewn yr amserlen danfon a ddyfynnwyd, cysylltwch â ni ar post@elinmair.co.uk. Mewn achos lle nad yw eitem yn cyrraedd, dim ond ar ôl i 10 diwrnod gwaith fynd heibio y gallwn ganiatáu eitem newydd/ad-daliad. Dyma'r raddfa amser i'r Post Brenhinol ystyried fod parsel wedi cael ei golli. Mae "diwrnodau gwaith" y Post Brenhinol yn golygu unrhyw ddiwrnod nad yw'n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul nac yn ŵyl gyhoeddus.