Polisi Ad-daliad
POLISI DYCHWELYD
- Rydym ni’n rhoi llawer iawn o ofal a sylw ym mhob eitem yr ydym yn eu gwneud â llaw ac yn gobeithio y byddwch chi wrth eich bodd gyda'ch gemwaith, ond os, am unrhyw reswm yr hoffech chi ddychwelyd eich nwyddau, bydd angen i chi gysylltu â ni o fewn 14 diwrnod o ddyddiad eich archeb i'w drefnu. Gallwch wneud hyn drwy gysylltu â ni ar janglerins@mail.com.
- Os nad yw'r nwyddau'n ffitio'n gywir, er enghraifft, rydych chi angen cadwyn fyrrach neu hirach, neu os oes angen i chi newid maint y fodrwy, cysylltwch â ni ar janglerins@mail.com. oherwydd gellir gwneud addasiadau. Efallai y bydd ffioedd am bostio.
- Rhaid i nwyddau fod yn eu cyflwr gwreiddiol, yn eu pecyn gwreiddiol, a heb eu defnyddio. Mae'n ôl ein disgresiwn ni p’un a ydym yn penderfynu ad-daliad am eitemau nad ydynt mewn cyflwr o'r fath.
- Cyfrifoldeb y cwsmer yw'r nwyddau nes iddynt gyrraedd ein cyfeiriad cofrestredig. Dylech sicrhau eich bod yn pacio'ch nwyddau yn ddigonol i atal difrod wrth eu cludo. Rydym ni’n cadw'r hawl i wrthod dychwelyd nwyddau sydd wedi'u difrodi oherwydd na chawsant eu hailbecynnu'n briodol.
- Ni ellir ad-dalu costau postio, a chyfrifoldeb y cwsmer yw talu am gostau postio yn ôl. Dylech sicrhau tystiolaeth o bostio, gan y bydd ad-daliadau ar gael ar eitemau sy'n cael eu dychwelyd atom yn unig. Ac eithrio nwyddau diffygiol a difrodedig, nid ydym yn gyfrifol am y postio yn ôl ac rydym yn pwysleisio unwaith eto eich bod yn defnyddio dull olrhain o bostio. Ni all Janglerins fod yn gyfrifol am golli eitemau sy’n cael eu dychwelyd.
- Ni all Janglerins dderbyn clustdlysau wedi’u dychwelyd oherwydd rhesymau hylendid, oni bai eu bod yn ddiffygiol.
- Os prynwyd yr eitem yn un o'n stocwyr, cysylltwch â nhw'n uniongyrchol a byddant yn anfon yr ymholiad atom os oes angen.