Polisi Preifatrwydd

POLISI PREIFATRWYDD

Mae'r polisi hwn (ynghyd â'n telerau ac amodau, ac unrhyw ddogfennau eraill y cyfeirir atynt arno) yn nodi ar ba sail y bydd unrhyw ddata personol a gasglwn gennych chi, neu yr ydych yn ei ddarparu i ni, yn cael ei brosesu gennym ni. Darllenwch y polisi yn ofalus. Mae'r polisi hwn yn berthnasol i'n gwefan yn unig. Os byddwch chi’n gadael ein gwefan trwy ddolen, byddwch yn ddarostyngedig i bolisi'r darparwr gwefan hwnnw. Nid oes gennym ni unrhyw reolaeth dros eu polisi na thelerau defnyddio'r wefan, dylech wirio eu polisi cyn parhau i gyrchu eu gwefan. Ni fyddwn yn gwerthu, dosbarthu na phrydlesu eich gwybodaeth bersonol i drydydd partïon oni bai ei bod yn ofynnol iddo wneud hynny yn ôl y gyfraith.

CWCIS 

Os ydych chi'n prynu o'r wefan hon, gallwch ddewis arbed eich enw, cyfeiriad e-bost, a manylion cyswllt eraill mewn cwcis. Mae'r rhain er hwylustod i chi fel nad oes rhaid i chi lenwi eich manylion eto pan fyddwch chi'n prynu yn y dyfodol.

Darperir ein meddalwedd e-fasnach gan Shopify.

Rydym yn defnyddio Google Analytics i ddeall sut mae ein hymwelwyr yn defnyddio ein gwefan. Ni fydd y data y gallwn ei weld yn ein cyfrif Google Analytics yn eich datgelu chi fel unigolyn. Dyma bolisi preifatrwydd Google.

CYNNWYS WEDI'I FEWNOSOD O WEFANNAU ERAILL

Gall erthyglau ar y wefan hon gynnwys cynnwys wedi'i fewnosod (e.e. fideos, delweddau, erthyglau). Mae cynnwys wedi'i fewnosod o wefannau eraill yn ymddwyn yn yr un modd â phe bai'r ymwelydd wedi ymweld â'r wefan arall.

Gall y gwefannau hyn gasglu data amdanoch chi, defnyddio cwcis, ymgorffori olrhain trydydd parti ychwanegol, a monitro'ch rhyngweithio â'r cynnwys sydd wedi'i fewnosod, gan gynnwys olrhain eich rhyngweithio â'r cynnwys sydd wedi'i fewnosod os oes gennych chi gyfrif a'ch bod wedi mewngofnodi i'r wefan honno.

GYDA PHWY RYDYM NI’N RHANNU EICH DATA

Os ydych chi’n gofyn am ailosod cyfrinair, bydd eich cyfeiriad IP yn cael ei gynnwys yn yr e-bost ailosod Mae eich enw a'ch cyfeiriad i'w gweld ar unrhyw barseli a anfonwn atoch drwy'r Post Brenhinol.

Os ydych chi’n tanysgrifio i'n cylchlythyr, ein darparwr; bydd Mailchimp (is-gwmni Intuit) yn cadw'ch enw a'ch cyfeiriad e-bost yn ddiogel, dyma bolisi preifatrwydd Mailchimp.

NEGESEUON MARCHNATA

Gallwch danysgrifio'n ddewisol i'n cylchlythyr trwy roi eich cyfeiriad e-bost yn y blwch ar waelod ein gwefan. Os na fyddwch yn tanysgrifio, ni fyddwn yn anfon e-byst marchnata atoch.

PA MOR HIR RYDYM NI’N CADW EICH DATA

Ar gyfer defnyddwyr sy'n cofrestru ar ein gwefan, rydym ni’n storio'r wybodaeth bersonol maen nhw’n ei darparu yn eu proffil defnyddiwr. Gall pob defnyddiwr weld, golygu neu ddileu eu gwybodaeth bersonol ar unrhyw adeg (ond ni allant newid eu henw defnyddiwr). Gall gweinyddwyr gwefannau hefyd weld a golygu'r wybodaeth honno. Os oes gennych chi gyfrif cofrestredig ar ein gwefan, gallwch ofyn am gael ffeil wedi'i hallforio o'r data personol sydd gennym ni amdanoch chi, gan gynnwys unrhyw ddata rydych chi wedi'i roi i ni. Gallwch hefyd ofyn i ni ddileu unrhyw ddata sydd gennym ni amdanoch chi. Nid yw hyn yn cynnwys unrhyw ddata mae'n rhaid i ni ei gadw at ddibenion gweinyddol, cyfreithiol neu ddiogelwch.