Mynegiant coeth o grefftwaith a moethusrwydd tawel, mae’r freichled aur hon wedi’i gwneud â llaw i’w chadw a’i gwerthfawrogi am flynyddoedd i ddod. Mae pob manylyn yn dangos gofal a dawn, gan ei gwneud yn anrheg arbennig iawn neu’n ddarn i nodi achlysur pwysig.
Mae’r freichled yn cynnwys tair breichled fein o aur melyn 9ct, pob un â’i gorffeniad unigryw: un wedi’i forthwylio’n ysgafn i ddal y golau, un llyfn a sgleiniog ar gyfer golwg glasurol, ac un â gwead pelenog cain i ychwanegu dyfnder. Yn hongian ochr yn ochr mae cylch aur pelenog hardd, sy’n ychwanegu manylyn cain a symudiad ysgafn i’r darn.
Yn gain ac yn wahanol, mae’r freichled hon yn cyfuno gweadau a ffurf i greu darn sy’n gyfoes ond yn oesol—darn i’w drosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth.
WEDI EI WNEUD I ARCHEB:
Mae pob darn o emwaith aur yn cael ei wneud yn arbennig i chi ar ôl i chi archebu felly gally gymryd 6-8 wythnos i fod yn barod.
MAINT
Bangls: Gwifren Aur Melyn 1.5mm 9ct (1 x wedi ei forthwylio. 1 x Llyfn. 1 x Gleiniog).
Hŵp Gleiniog Aur: 1.7cm x 1.7cm.
Diamedr: 69mm (ar draws y canol).
Gellir ei wneud i unrhyw faint.
